Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Ionawr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13186
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru?
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd yn sgil cyhoeddiad Wizz Air ei fod yn rhoi'r gorau i weithrediadau i mewn ac allan o Gymru?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.36
Gwnaeth Jack Sargeant, Llyr Gruffydd a Tom Giffard ddatganiad am – Ymddeoliad Gareth Bale.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.42
NDM8169 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:
Yn penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 16 Mawrth 2023 tan 15 Mawrth 2027.
Noder: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Asedau Cymunedol
Dechreuodd yr eitem am 15.44
NDM8170 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ionawr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu
Dechreuodd yr eitem am 16.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu, fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o gael diagnosis.
3. Yn cydnabod mai alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r targedau yn y datganiad ansawdd, gan gynnwys:
a) dyblu'r gweithlu hepatoleg, gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad enfawr mewn mynediad at ofal arbenigol;
b) nodi pryd fydd gan bob bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i fodloni angen lleol;
c) nodi pryd a sut y bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael ei fabwysiadu gan bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynnar.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu, fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o gael diagnosis.
3. Yn cydnabod mai alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.
4. Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
10 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8172 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau.
2. Yn nodi pryderon sylweddol y cyhoedd ynghylch cynigion i ganoli gwasanaeth ambiwlans awyr gogledd a chanolbarth Cymru mewn un lleoliad.
3. Yn cydnabod deisebau yn cynnwys dros 20,000 llofnod yn galw am gadw canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru.
Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen.
Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8172 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau.
2. Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru.
3. Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen.
4. Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.25
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM8167 Peter Fox (Mynwy)
Yr heriau presennol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.58
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023